Proverbs 23

1Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr,
gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn;
2dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd.
3Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion,
mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
4Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian;
bydd yn ddigon call i ymatal.
5Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd!
Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
6Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd;
paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion.
7Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta!
Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,”
ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn.
8Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi ei fwyta,
ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
9Paid dweud gormod wrth ffŵl,
fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.
10Paid symud yr hen ffiniau,
a dwyn tir oddi ar yr amddifad;
11mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf,
a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.
12Penderfyna dy fod eisiau dysgu
a gwrando ar eiriau doeth.
13Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn;
dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e.
14Defnyddia'r wialen
a byddi'n achub ei fywyd.
15Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth,
bydda i'n hapus iawn.
16Bydda i wrth fy modd
yn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn.
17Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu –
bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser.
18Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd,
a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
19Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth;
penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
20Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed,
ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd.
21Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;
fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;
a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
23Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,
doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn
bydd ei dad mor hapus;
mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.
25Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;
gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
26Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;
gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
27Mae putain fel pwll dwfn;
a gwraig anfoesol fel pydew cul.
28Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr;
ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
29Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus?
Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg?
Pwy sy'n cael damweiniau diangen?
Pwy sydd â llygaid cochion?
30Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân,
ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd.
31Paid llygadu'r gwin coch yna
sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr
ac yn mynd i lawr mor dda.
32Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd;
bydd fel brathiad gwiber.
33Byddi'n gweld pethau rhyfedd,
a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân.
34Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr,
neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.
35“Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd;
Ces fy nghuro, ond dw i'n cofio dim am y peth.
Pryd dw i'n mynd i sobri?
– dw i angen diod arall.”
Copyright information for CYM